Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:38-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Yna dywedodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid wrtho, “Athro, fe garem weld arwydd gennyt.”

39. Atebodd yntau, “Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd y proffwyd Jona.

40. Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos.

41. Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.

42. Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.

43. “Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael.

44. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.

45. Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon.”

46. Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.

47. Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12