Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:12-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.”

13. Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall.

14. Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd.

15. Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt,

16. a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys,

17. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:

18. “Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais,fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo.Rhoddaf fy Ysbryd arno,a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.

19. Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi,ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20. Ni fydd yn mathru corsen doredig,nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu,nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.

21. Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”

22. Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld.

23. A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?”

24. Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.”

25. Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thÅ· a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll.

26. Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12