Hen Destament

Testament Newydd

Marc 1:29-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan.

30. Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed;

31. aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt.

32. Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.

33. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws.

34. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.

35. Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo.

36. Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano;

37. ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.”

38. Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.”

39. Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.

40. Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os mynni, gelli fy nglanhau.”

41. A chan dosturio estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 1