Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Marc 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Pregethu Ioan Fedyddiwr

1. Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.

2. Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia:“Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaeni baratoi dy ffordd.

3. Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo’ ”—

4. ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau.

5. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

6. Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd.

7. A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef.

8. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”

Bedydd Iesu

9. Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan.

10. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno.

11. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

Temtiad Iesu

12. Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch,

13. a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.

Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea

14. Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud:

15. “Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.”

Galw Pedwar Pysgotwr

16. Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.

17. Dywedodd Iesu wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.”

18. A gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.

19. Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; yr oeddent wrthi'n cyweirio'r rhwydau yn y cwch.

20. Galwodd hwythau ar unwaith, a chan adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda'r gweision, aethant ymaith ar ei ôl ef.

Y Dyn ag Ysbryd Aflan ynddo

21. Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i'r synagog a dechrau dysgu.

22. Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

23. Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw,

24. gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.”

25. Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.”

26. A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono.

27. Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo.”

28. Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea.

Iacháu Llawer

29. Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan.

30. Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed;

31. aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt.

32. Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.

33. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws.

34. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.

Taith Bregethu

35. Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo.

36. Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano;

37. ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.”

38. Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.”

39. Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.

Glanhau Dyn Gwahanglwyfus

40. Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os mynni, gelli fy nglanhau.”

41. A chan dosturio estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.”

42. Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef.

43. Ac wedi ei rybuddio'n llym gyrrodd Iesu ef ymaith ar ei union,

44. a dweud wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yr hyn a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”

45. Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi'r hanes i gyd ar goedd a'i daenu ar led, fel na allai Iesu mwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.