Hen Destament

Testament Newydd

Marc 1:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.

2. Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia:“Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaeni baratoi dy ffordd.

3. Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo’ ”—

4. ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau.

5. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

6. Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd.

7. A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef.

8. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”

9. Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan.

10. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno.

11. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

12. Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch,

13. a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.

14. Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud:

15. “Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.”

16. Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent.

17. Dywedodd Iesu wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 1