57. Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.
58. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi.
59. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias.
60. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.”
61. Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.”
62. Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.
63. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.
64. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.
65. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;
66. a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.
67. Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn:
68. “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israelam iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;
69. cododd waredigaeth gadarn i niyn nhŷ Dafydd ei was—