Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.”

10. Gofynasant iddo felly, “Sut yr agorwyd dy lygaid di?”

11. Atebodd yntau, “Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, ‘Dos i Siloam i ymolchi.’ Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg.”

12. Gofynasant iddo, “Ble mae ef?” “Ni wn i,” meddai yntau.

13. Aethant â'r dyn oedd wedi bod gynt yn ddall at y Phariseaid.

14. Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw pan wnaeth Iesu glai ac agor llygaid y dyn.

15. A dyma'r Phariseaid yn gofyn iddo eto sut yr oedd wedi cael ei olwg. Ac meddai wrthynt, “Rhoddodd glai ar fy llygaid ac ymolchais, a dyma fi'n gweld.”

16. Felly dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Nid yw'r dyn hwn o Dduw; nid yw'n cadw'r Saboth.” Ond meddai eraill, “Sut y gall dyn sy'n bechadur wneud y fath arwyddion?” Ac yr oedd ymraniad yn eu plith,

17. a dyma hwy'n gofyn eto i'r dyn dall, “Beth sydd gennyt ti i'w ddweud amdano ef, gan iddo agor dy lygaid di?” Atebodd yntau, “Proffwyd yw ef.”

18. Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn

19. a'u holi hwy: “Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9