Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:12-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Gofynasant iddo, “Ble mae ef?” “Ni wn i,” meddai yntau.

13. Aethant â'r dyn oedd wedi bod gynt yn ddall at y Phariseaid.

14. Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw pan wnaeth Iesu glai ac agor llygaid y dyn.

15. A dyma'r Phariseaid yn gofyn iddo eto sut yr oedd wedi cael ei olwg. Ac meddai wrthynt, “Rhoddodd glai ar fy llygaid ac ymolchais, a dyma fi'n gweld.”

16. Felly dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Nid yw'r dyn hwn o Dduw; nid yw'n cadw'r Saboth.” Ond meddai eraill, “Sut y gall dyn sy'n bechadur wneud y fath arwyddion?” Ac yr oedd ymraniad yn eu plith,

17. a dyma hwy'n gofyn eto i'r dyn dall, “Beth sydd gennyt ti i'w ddweud amdano ef, gan iddo agor dy lygaid di?” Atebodd yntau, “Proffwyd yw ef.”

18. Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn

19. a'u holi hwy: “Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?”

20. Atebodd ei rieni, “Fe wyddom mai hwn yw ein mab a'i fod wedi ei eni'n ddall.

21. Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun.”

22. Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog.

23. Dyna pam y dywedodd ei rieni, “Y mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo ef.”

24. Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, “Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn.”

25. Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.”

26. Meddent wrtho, “Beth wnaeth ef iti? Sut yr agorodd ef dy lygaid di?”

27. Atebodd hwy, “Rwyf wedi dweud wrthych eisoes, ond nid ydych wedi gwrando. Pam yr ydych mor awyddus i glywed y peth eto? Does bosibl eich bod chwi hefyd yn awyddus i fod yn ddisgyblion iddo?”

28. Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifrïo ac yn dweud wrtho, “Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni.

29. Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9