Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 4:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus,

23. a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl,

24. a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd.

25. Gan hynny, ymaith â chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o'n gilydd.

26. Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint,

27. a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol.

28. Y mae'r lleidr i beidio â lladrata mwyach; yn hytrach, dylai ymroi i weithio'n onest â'i ddwylo ei hun, er mwyn cael rhywbeth i'w rannu â'r sawl sydd mewn angen.

29. Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed.

30. Peidiwch â thristáu Ysbryd Glân Duw, yr Ysbryd y gosodwyd ei sêl arnoch ar gyfer dydd eich prynu'n rhydd.

31. Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 4