1. Ac at angel yr eglwys yn Sardis, ysgrifenna:“Dyma y mae'r hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a'r saith seren yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd, a bod gennyt enw dy fod yn fyw er mai marw ydwyt.
2. Bydd effro, a chryfha'r hyn sydd ar ôl gennyt, sydd ar ddarfod amdano, oherwydd ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn yng ngolwg fy Nuw i.
3. Cofia, felly, beth a dderbyniaist ac a glywaist; cadw at hynny ac edifarha. Os na fydd iti ddeffro, fe ddof fel lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof atat.
4. Ond y mae gennyt rai unigolion yn Sardis nad ydynt wedi halogi eu dillad; caiff y rhain rodio gyda mi mewn gwisgoedd gwynion, oherwydd y maent yn deilwng.
5. Y sawl sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.
6. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”
7. Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia, ysgrifenna:“Dyma y mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud,“yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo,yr hwn sy'n agor, ac ni fydd neb yn cau,ac yn cau, a neb yn agor:
8. “Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.