Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Y Neges i Sardis

1. Ac at angel yr eglwys yn Sardis, ysgrifenna:“Dyma y mae'r hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a'r saith seren yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd, a bod gennyt enw dy fod yn fyw er mai marw ydwyt.

2. Bydd effro, a chryfha'r hyn sydd ar ôl gennyt, sydd ar ddarfod amdano, oherwydd ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn yng ngolwg fy Nuw i.

3. Cofia, felly, beth a dderbyniaist ac a glywaist; cadw at hynny ac edifarha. Os na fydd iti ddeffro, fe ddof fel lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof atat.

4. Ond y mae gennyt rai unigolion yn Sardis nad ydynt wedi halogi eu dillad; caiff y rhain rodio gyda mi mewn gwisgoedd gwynion, oherwydd y maent yn deilwng.

5. Y sawl sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.

6. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”

Y Neges i Philadelffia

7. Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia, ysgrifenna:“Dyma y mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud,“yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo,yr hwn sy'n agor, ac ni fydd neb yn cau,ac yn cau, a neb yn agor:

8. “Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.

9. Wele, rhoddaf iti rai o synagog Satan sydd yn eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly; dweud celwydd y maent. Wele, gwnaf iddynt ddod ac ymgrymu wrth dy draed, a chael gwybod i mi dy garu di.

10. Am iti gadw fy ngair i ddyfalbarhau, byddaf finnau yn dy gadw di rhag awr y prawf sydd ar ddod ar yr holl fyd i brofi trigolion y ddaear.

11. Yr wyf yn dod yn fuan; glyna wrth yr hyn sydd gennyt, rhag i neb ddwyn dy goron di.

12. Y sawl sy'n gorchfygu, fe'i gwnaf yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac nid â allan oddi yno byth. Ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw i—ac enw dinas fy Nuw i, y Jerwsalem newydd sy'n disgyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i—a'm henw newydd i.

13. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”

Y Neges i Laodicea

14. Ac at angel yr eglwys yn Laodicea, ysgrifenna:“Dyma y mae'r Amen, y tyst ffyddlon a gwir, a dechreuad creadigaeth Duw, yn ei ddweud:

15. Gwn am dy weithredoedd; nid wyt nac yn oer nac yn boeth. Gwyn fyd na fyddit yn oer neu yn boeth!

16. Felly, gan mai claear ydwyt, heb fod nac yn boeth nac yn oer, fe'th boeraf allan o'm genau.

17. Dweud yr wyt, ‘Rwy'n gyfoethog, ac wedi casglu golud, ac nid oes arnaf eisiau dim’; ac ni wyddost mai gwrthrych trueni a thosturi ydwyt, yn dlawd, yn ddall, ac yn noeth.

18. Felly, cynghoraf di i brynu gennyf fi aur wedi ei buro drwy dân, iti ddod yn gyfoethog, a dillad gwyn i'w gwisgo, i guddio gwarth dy noethni, ac eli i iro dy lygaid, iti gael gweld.

19. Yr wyf fi'n ceryddu ac yn disgyblu'r rhai a garaf; bydd selog, felly, ac edifarha.

20. Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda'n gilydd.

21. I'r sawl sy'n gorchfygu y rhof yr hawl i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orsedd ef.

22. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”