1. Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol.
2. Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, “Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael gair Duw, i weini wrth fyrddau.
3. Gyfeillion, dewiswch saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl.
4. Fe barhawn ni yn ddyfal yn y gweddïo ac yng ngwasanaeth y gair.”
5. A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia.
6. Gosodasant y rhain gerbron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant hwythau eu dwylo arnynt.
7. Yr oedd gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd.
8. Yr oedd Steffan, yn llawn gras a nerth, yn gwneud rhyfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl.
9. Ond daeth rhai o'r synagog a elwid yn Synagog y Libertiniaid a'r Cyreniaid a'r Alexandriaid, a rhai o bobl Cilicia ac Asia, a dadlau â Steffan,