Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Actau 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Ethol y Saith

1. Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol.

2. Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, “Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael gair Duw, i weini wrth fyrddau.

3. Gyfeillion, dewiswch saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl.

4. Fe barhawn ni yn ddyfal yn y gweddïo ac yng ngwasanaeth y gair.”

5. A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia.

6. Gosodasant y rhain gerbron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant hwythau eu dwylo arnynt.

7. Yr oedd gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd.

Dal Steffan

8. Yr oedd Steffan, yn llawn gras a nerth, yn gwneud rhyfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl.

9. Ond daeth rhai o'r synagog a elwid yn Synagog y Libertiniaid a'r Cyreniaid a'r Alexandriaid, a rhai o bobl Cilicia ac Asia, a dadlau â Steffan,

10. ond ni allent wrthsefyll y ddoethineb a'r Ysbryd yr oedd yn llefaru drwyddo.

11. Yna annog dynion a wnaethant i ddweud, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw.”

12. A chynyrfasant y bobl a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, ac ymosod arno a'i gipio a dod ag ef gerbron y Sanhedrin,

13. a gosod gau dystion i ddweud, “Y mae'r dyn yma byth a hefyd yn llefaru pethau yn erbyn y lle sanctaidd hwn a'r Gyfraith;

14. oherwydd clywsom ef yn dweud y bydd Iesu'r Nasaread yma yn distrywio'r lle hwn, ac yn newid y defodau a draddododd Moses i ni.”

15. A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel wyneb angel.