Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 9:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael.

7. Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu.

8. Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da.

9. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion,y mae ei haelioni yn para am byth.”

10. Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu.

11. Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw.

12. Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw.

13. Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb.

14. Byddant yn hiraethu amdanoch ac yn gweddïo ar eich rhan, oherwydd y gras rhagorol a roddodd Duw i chwi.

15. Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 9