Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Y Cymorth i'r Saint

1. Nid oes dim angen i mi ysgrifennu atoch chwi ynglŷn â'r cymorth i'r saint.

2. Gwn am eich eiddgarwch, a byddaf yn ymffrostio amdano ac amdanoch chwi wrth y Macedoniaid, ac yn dweud bod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a bu eich sêl yn symbyliad i'r rhan fwyaf ohonynt.

3. Rwy'n anfon y brodyr er mwyn sicrhau na cheir ein hymffrost amdanoch yn ofer yn hyn o beth, ond eich bod yn barod, fel y dywedais y byddech.

4. Byddai'n beth chwithig pe deuai Macedoniaid gyda mi a'ch cael yn amharod, ac felly i ni—heb sôn amdanoch chwi—gael ein cywilyddio am fod mor sicr ohonoch.

5. Dyna pam y teimlais ei bod yn angenrheidiol gofyn i'r brodyr ddod atoch o'm blaen i, a threfnu ymlaen llaw y rhodd yr oeddech wedi ei haddo o'r blaen. Felly byddai'n barod i mi, yn rhodd haelioni, nid rhodd cybydd-dod.

6. Cofiwch hyn: a heuo'n brin a fed yn brin, a heuo'n hael a fed yn hael.

7. Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu.

8. Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da.

9. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion,y mae ei haelioni yn para am byth.”

10. Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu.

11. Ym mhob peth cewch eich cyfoethogi ar gyfer pob haelioni, a bydd hynny trwom ni yn esgor ar ddiolchgarwch i Dduw.

12. Oherwydd y mae'r cymorth a ddaw o'r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn diwallu anghenion y saint ond hefyd yn gorlifo mewn llawer o ddiolchgarwch i Dduw.

13. Ar gyfrif y prawf sydd yn y cymorth hwn, byddant yn gogoneddu Duw am eich ufudd-dod i Efengyl Crist, yr Efengyl yr ydych yn ei chyffesu, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb.

14. Byddant yn hiraethu amdanoch ac yn gweddïo ar eich rhan, oherwydd y gras rhagorol a roddodd Duw i chwi.

15. Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy.