Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 4:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Oherwydd yr wyf yn tybio bod Duw wedi rhoi i ni'r apostolion y lle olaf, fel rhai wedi eu condemnio i farw yn yr arena, gan ein bod wedi dod yn sioe i'r cyfanfyd, i angylion ac i feidrolion.

10. Ni yn ffyliaid er mwyn Crist, chwithau'n rhai call yng Nghrist! Ni yn wan, chwithau'n gryf! Chwi'n llawn anrhydedd, ninnau heb ddim parch!

11. Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref,

12. yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;

13. i'r enllib, geiriau caredig. Fe'n gwnaethpwyd yn garthion y byd, yn olchion pawb, hyd yn awr.

14. Nid i godi cywilydd arnoch yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i'ch rhybuddio, fel plant annwyl i mi.

15. Pe byddai gennych ddeng mil o hyfforddwyr yng Nghrist, eto ni fyddai gennych fwy nag un tad, oherwydd yng Nghrist Iesu myfi a ddeuthum yn dad i chwi drwy'r Efengyl.

16. Am hynny yr wyf yn erfyn arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.

17. Dyma pam yr anfonais Timotheus atoch; y mae ef yn fab annwyl i mi, ac yn ffyddlon yn yr Arglwydd, a bydd yn dwyn ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, fel y byddaf yn eu dysgu ym mhobman, ym mhob eglwys.

18. Y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i am ddod atoch.

19. Ond yr wyf am ddod atoch ar fyrder, os caniatâ'r Arglwydd, a chaf wybod, nid am siarad y rhai sydd wedi ymchwyddo, ond am eu gallu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 4