Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Gweinidogaeth yr Apostolion

1. Bydded i bob un ein cyfrif ni fel gweision Crist a goruchwylwyr dirgelion Duw.

2. Yn awr, yr hyn a ddisgwylir mewn goruchwylwyr yw eu cael yn ffyddlon.

3. O'm rhan fy hun, peth bach iawn yw cael fy ngosod ar brawf gennych chwi, neu gan unrhyw lys dynol. Yn wir, nid wyf yn eistedd mewn barn arnaf fy hun.

4. Nid oes gennyf ddim ar fy nghydwybod, ond nid wyf drwy hynny wedi fy nghael yn ddieuog. Yr Arglwydd yw fy marnwr i.

5. Felly peidiwch â barnu dim cyn yr amser, nes i'r Arglwydd ddod; bydd ef yn goleuo pethau cudd y tywyllwch ac yn gwneud bwriadau'r galon yn amlwg. Ac yna caiff pob un ei glod gan Dduw.

6. Yr wyf wedi cymhwyso'r pethau hyn, gyfeillion, ataf fi fy hun ac at Apolos er eich mwyn chwi, ichwi ddysgu, drwom ni, “gadw o fewn yr hyn a ysgrifennwyd”, rhag i neb ohonoch ymchwyddo wrth bleidio un a gwrthod y llall.

7. Pwy sy'n rhoi rhagoriaeth i ti? Beth sydd gennyt, nad wyt wedi ei dderbyn? Ac os ei dderbyn a wnaethost, pam yr wyt yn ymffrostio fel pe bait heb dderbyn?

8. Dyma chwi eisoes wedi cael eich gwala; eisoes wedi dod yn gyfoethog; wedi etifeddu eich teyrnas, a hynny hebom ni! Gwyn fyd na fyddech wedi etifeddu eich teyrnas mewn gwirionedd, er mwyn i ninnau hefyd gael teyrnasu gyda chwi!

9. Oherwydd yr wyf yn tybio bod Duw wedi rhoi i ni'r apostolion y lle olaf, fel rhai wedi eu condemnio i farw yn yr arena, gan ein bod wedi dod yn sioe i'r cyfanfyd, i angylion ac i feidrolion.

10. Ni yn ffyliaid er mwyn Crist, chwithau'n rhai call yng Nghrist! Ni yn wan, chwithau'n gryf! Chwi'n llawn anrhydedd, ninnau heb ddim parch!

11. Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref,

12. yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;

13. i'r enllib, geiriau caredig. Fe'n gwnaethpwyd yn garthion y byd, yn olchion pawb, hyd yn awr.

14. Nid i godi cywilydd arnoch yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i'ch rhybuddio, fel plant annwyl i mi.

15. Pe byddai gennych ddeng mil o hyfforddwyr yng Nghrist, eto ni fyddai gennych fwy nag un tad, oherwydd yng Nghrist Iesu myfi a ddeuthum yn dad i chwi drwy'r Efengyl.

16. Am hynny yr wyf yn erfyn arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.

17. Dyma pam yr anfonais Timotheus atoch; y mae ef yn fab annwyl i mi, ac yn ffyddlon yn yr Arglwydd, a bydd yn dwyn ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, fel y byddaf yn eu dysgu ym mhobman, ym mhob eglwys.

18. Y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i am ddod atoch.

19. Ond yr wyf am ddod atoch ar fyrder, os caniatâ'r Arglwydd, a chaf wybod, nid am siarad y rhai sydd wedi ymchwyddo, ond am eu gallu.

20. Oherwydd nid mewn siarad y mae teyrnas Dduw, ond mewn gallu.

21. Beth yw eich dewis? Ai â gwialen yr wyf i ddod atoch, ynteu â chariad, ac ysbryd addfwynder?