Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 53:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoeddar ddynolryw,i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoethac yn ceisio Duw.

3. Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,ac mor llygredig â'i gilydd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.

4. Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygionisy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?

5. Yno y byddant mewn dychryn mawr,dychryn na fu ei debyg.Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol;daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod.

6. O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 53