Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 147:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;y mae ei ddoethineb yn ddifesur.

6. Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.

7. Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch,canwch fawl i'n Duw â'r delyn.

8. Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau,ac yn darparu glaw i'r ddaear;y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt,a phlanhigion at wasanaeth pobl.

9. Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid,a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.

10. Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march,nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr;

11. ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni,y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.

12. Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem;mola dy Dduw, O Seion,

13. oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth,a bendithiodd dy blant o'th fewn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 147