11. ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni,y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
12. Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem;mola dy Dduw, O Seion,
13. oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth,a bendithiodd dy blant o'th fewn.
14. Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau,ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau.
15. Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear,ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.
16. Y mae'n rhoi eira fel gwlân,yn taenu barrug fel lludw,
17. ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion;pwy a all ddal ei oerni ef?
18. Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi;gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.
19. Y mae'n mynegi ei air i Jacob,ei ddeddfau a'i farnau i Israel;