11. Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth,ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.
12. Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian;mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
13. Ystyria'r hyn a wnaeth Duw;pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?
14. Bydd lawen pan yw'n dda arnat,ond yn amser adfyd ystyria hyn:Duw a wnaeth y naill beth a'r llall,fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
15. Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni.
16. Paid â bod yn rhy gyfiawn, a phaid â bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun?
17. Paid â bod yn rhy ddrwg, a phaid â bod yn ffŵl; pam y byddi farw cyn dy amser?
18. Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio â gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.
19. Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.
20. Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
21. Paid â chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio;
22. yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.
23. Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, “Yr wyf am fod yn ddoeth,” ond yr oedd yn bell oddi wrthyf.
24. Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod?
25. Fe euthum ati i ddeall â'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd.
26. A chanfûm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd â'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi.
27. “Edrych, dyma'r peth a ganfûm,” medd y Pregethwr, “trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr,