Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 1:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. “Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,a chri o Ail Barth y ddinas,a malurio trystfawr o'r bryniau.

11. Gwaeddwch, drigolion y Farchnad.Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr,a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.

12. “Yn yr amser hwnnwchwiliaf Jerwsalem â llusernau,a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddodac yn dweud wrthynt eu hunain,‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’

13. Anrheithir eu cyfoetha difethir eu tai;codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”

14. Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,yn agos ac yn dod yn gyflym;chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.

15. Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,dydd blinder a gofid,dydd dinistr a difrod,dydd tywyllwch a düwch,dydd cymylau a chaddug,

16. dydd utgorn a bloedd rhyfelyn erbyn y dinasoedd caerogac yn erbyn y tyrau uchel.

17. “Mi ddof â thrybini ar bobl,a cherddant fel deillion;am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDDtywelltir eu gwaed fel llwcha'u perfedd fel tom,

18. ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu.”Ar ddydd dicter yr ARGLWYDDysir yr holl dir â thân ei lid,oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan,ar holl drigolion y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 1