Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Dydd Barn yr ARGLWYDD

1. Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Seffaneia fab Cushi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda.

2. “Ysgubaf ymaith yn llwyr bopeth oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.

3. “Ysgubaf ymaith ddyn ac anifail;ysgubaf ymaith adar y nefoedd a physgod y môr;darostyngaf y rhai drygionus,a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.

4. “Estynnaf fy llaw yn erbyn Jwdaac yn erbyn holl drigolion Jerwsalem;a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal,ac enw'r offeiriaid gau,

5. a'r rhai sy'n ymgrymu ar bennau'r tai i lu'r nef,y rhai sy'n ymgrymu ac yn tyngu i'r ARGLWYDDond hefyd yn tyngu i Milcom,

6. a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”

7. Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberthac wedi cysegru ei wahoddedigion.

8. “Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDDmi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,a phawb sy'n gwisgo dillad estron.

9. Ar y dydd hwnnwmi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniogac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.

10. “Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,a chri o Ail Barth y ddinas,a malurio trystfawr o'r bryniau.

11. Gwaeddwch, drigolion y Farchnad.Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr,a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.

12. “Yn yr amser hwnnwchwiliaf Jerwsalem â llusernau,a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddodac yn dweud wrthynt eu hunain,‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’

13. Anrheithir eu cyfoetha difethir eu tai;codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”

14. Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,yn agos ac yn dod yn gyflym;chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.

15. Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,dydd blinder a gofid,dydd dinistr a difrod,dydd tywyllwch a düwch,dydd cymylau a chaddug,

16. dydd utgorn a bloedd rhyfelyn erbyn y dinasoedd caerogac yn erbyn y tyrau uchel.

17. “Mi ddof â thrybini ar bobl,a cherddant fel deillion;am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDDtywelltir eu gwaed fel llwcha'u perfedd fel tom,

18. ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu.”Ar ddydd dicter yr ARGLWYDDysir yr holl dir â thân ei lid,oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan,ar holl drigolion y ddaear.