13. Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’
14. “Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac nid edifarheais,
15. felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i dŷ Jwda; peidiwch ag ofni.
16. Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth;
17. peidiwch â dyfeisio â'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casáu yr holl bethau hyn,’ medd yr ARGLWYDD.”
18. Daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,
19. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i dŷ Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.’
20. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Daw eto bobloedd a thrigolion dinasoedd mawrion;
21. bydd trigolion un dref yn mynd at drigolion tref arall ac yn dweud, Awn i geisio ffafr yr ARGLWYDD ac i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd; ac fe af finnau hefyd.
22. Daw pobloedd cryfion a chenhedloedd nerthol i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd yn Jerwsalem ac i geisio ffafr yr ARGLWYDD.’
23. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yn y dyddiau hynny bydd deg o blith cenhedloedd o bob iaith yn cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.’ ”