Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 7:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Yna daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,

5. “Dywed wrth holl bobl y tir ac wrth yr offeiriaid, ‘Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed mis ac yn y seithfed mis y deng mlynedd a thrigain hyn, ai er fy mwyn i yr oeddech yn ymprydio?

6. A phan oeddech yn bwyta ac yn yfed, onid er eich mwyn eich hunain yr oeddech yn bwyta ac yn yfed?

7. Onid hyn a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy'r proffwydi gynt pan oedd Jerwsalem yn boblog a llewyrchus, gyda'i threfi o'i hamgylch, a'r Negef a'r Seffela hefyd yn boblog?’ ”

8. Daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia:

9. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Barnwch yn deg, a dangoswch drugaredd a thosturi tuag at eich gilydd;

10. peidiwch â gorthrymu'r weddw, yr amddifad, yr estron a'r tlawd, na dyfeisio yn eich meddyliau ddrwg i'ch gilydd.’

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 7