1. Ym mhedwaredd flwyddyn y Brenin Dareius, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, Cislef, daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia.
2. Yr oedd pobl Bethel wedi anfon Sareser a Regem-melech a'u gwŷr i geisio ffafr yr ARGLWYDD,
3. ac i ofyn i'r offeiriaid oedd yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ac i'r proffwydi, “A ddylid galaru ac ymprydio yn y pumed mis fel y gwneir ers blynyddoedd bellach?”
4. Yna daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,
5. “Dywed wrth holl bobl y tir ac wrth yr offeiriaid, ‘Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed mis ac yn y seithfed mis y deng mlynedd a thrigain hyn, ai er fy mwyn i yr oeddech yn ymprydio?
6. A phan oeddech yn bwyta ac yn yfed, onid er eich mwyn eich hunain yr oeddech yn bwyta ac yn yfed?