Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 4:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi sôn amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, “Tyrd yma ac eistedd i lawr.” Aeth yntau ac eistedd.

2. Yna fe ddewisodd ddeg o henuriaid y dref a dweud, “Eisteddwch yma”; ac eisteddodd y rheini.

3. Dywedodd wrth y perthynas, “Daeth Naomi yn ôl o wlad Moab ac y mae am werthu'r darn tir oedd yn perthyn i'n brawd Elimelech,

4. a meddyliais y byddwn yn gadael i ti wybod; felly pryn ef yng ngŵydd henuriaid fy mhobl, sy'n eistedd yma. Os wyt ti am ei brynu'n ôl, gwna hynny; ond os nad wyt am ei brynu, dywed wrthyf, imi gael gwybod; oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i'w brynu, a chennyf finnau wedyn.” Dywedodd yntau, “Fe'i prynaf.”

5. Yna meddai Boas, “Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gŵr a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth.”

6. Atebodd y perthynas, “Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi.”

7. Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.

8. Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, “Pryn ef i ti dy hun”, fe dynnodd ei esgid.

9. A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, “Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.

10. Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn.”

11. Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, “Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th dŷ fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd dŷ Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem.

12. Trwy'r plant y bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi i ti o'r eneth hon, bydded dy deulu fel teulu Peres a ddygodd Tamar i Jwda.”

13. Wedi i Boas gymryd Ruth yn wraig iddo, aeth i mewn ati a pharodd yr ARGLWYDD iddi feichiogi, ac esgorodd ar fab.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 4