Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Boas yn Priodi Ruth

1. Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi sôn amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, “Tyrd yma ac eistedd i lawr.” Aeth yntau ac eistedd.

2. Yna fe ddewisodd ddeg o henuriaid y dref a dweud, “Eisteddwch yma”; ac eisteddodd y rheini.

3. Dywedodd wrth y perthynas, “Daeth Naomi yn ôl o wlad Moab ac y mae am werthu'r darn tir oedd yn perthyn i'n brawd Elimelech,

4. a meddyliais y byddwn yn gadael i ti wybod; felly pryn ef yng ngŵydd henuriaid fy mhobl, sy'n eistedd yma. Os wyt ti am ei brynu'n ôl, gwna hynny; ond os nad wyt am ei brynu, dywed wrthyf, imi gael gwybod; oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i'w brynu, a chennyf finnau wedyn.” Dywedodd yntau, “Fe'i prynaf.”

5. Yna meddai Boas, “Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gŵr a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth.”

6. Atebodd y perthynas, “Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi.”

7. Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.

8. Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, “Pryn ef i ti dy hun”, fe dynnodd ei esgid.

9. A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, “Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.

10. Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn.”

11. Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, “Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th dŷ fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd dŷ Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem.

12. Trwy'r plant y bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi i ti o'r eneth hon, bydded dy deulu fel teulu Peres a ddygodd Tamar i Jwda.”

Boas a'i Ddisgynyddion

13. Wedi i Boas gymryd Ruth yn wraig iddo, aeth i mewn ati a pharodd yr ARGLWYDD iddi feichiogi, ac esgorodd ar fab.

14. Ac meddai'r gwragedd wrth Naomi, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio â'th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel.

15. Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti.”

16. Cymerodd Naomi y bachgen a'i ddodi yn ei chôl a'i fagu.

17. Rhoddodd y cymdogesau enw iddo a dweud, “Ganwyd mab i Naomi.” Galwasant ef Obed; ef oedd tad Jesse, tad Dafydd.

18. Dyma achau Peres: Peres oedd tad Hesron,

19. Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Amminadab,

20. Amminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon,

21. Salmon oedd tad Boas, Boas oedd tad Obed,

22. Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad Dafydd.