15. Yna, pan gododd hi i loffa, gorchmynnodd Boas i'w weision, “Gadewch iddi loffa hyd yn oed ymysg yr ysgubau, a pheidiwch â'i dwrdio;
16. yr wyf am i chwi hyd yn oed dynnu peth allan o'r dyrneidiau a'i adael iddi i'w loffa; a pheidiwch â'i cheryddu.”
17. Bu'n lloffa yn y maes hyd yr hwyr, a phan ddyrnodd yr hyn yr oedd wedi ei loffa, cafodd tuag effa o haidd.
18. Fe'i cymerodd gyda hi i'r dref, a dangos i'w mam-yng-nghyfraith faint yr oedd wedi ei loffa; hefyd fe dynnodd allan y bwyd a gadwodd ar ôl cael digon, a'i roi iddi.
19. Gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi, “Ple buost ti'n lloffa ac yn llafurio heddiw? Bendith ar y sawl a gymerodd sylw ohonot.” Eglurodd hithau i'w mam-yng-nghyfraith gyda phwy y bu'n llafurio, a dweud, “Boas oedd enw'r dyn y bûm yn llafurio gydag ef heddiw.”
20. Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith, “Bendith yr ARGLWYDD arno! Nid yw'r ARGLWYDD wedi atal ei drugaredd at y byw na'r meirw.” Ac ychwanegodd Naomi, “Y mae'r dyn yn perthyn inni, ac yn un o'n perthnasau agosaf.”
21. Yna dywedodd Ruth y Foabes, “Fe ddywedodd wrthyf hefyd am lynu wrth ei weision ef nes iddynt orffen ei gynhaeaf.”
22. Ac meddai Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth, “Y mae'n well iti, fy merch, fynd allan gyda'i lancesau ef, rhag i rywrai ymosod arnat mewn rhyw faes arall.”
23. A glynodd hithau wrth lancesau Boas i loffa hyd ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith, ond yr oedd yn byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.