Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 6:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. “ ‘Trwy gydol cyfnod ei adduned i fod yn Nasaread, nid yw i eillio ei ben; bydd yn gadael i gudynnau ei wallt dyfu'n hir, a bydd yn sanctaidd nes iddo orffen ymgysegru i'r ARGLWYDD.

6. “ ‘Trwy gydol dyddiau ei ymgysegriad i'r ARGLWYDD, nid yw i gyffwrdd â chorff marw.

7. Hyd yn oed os bydd farw ei dad neu ei fam, ei frawd neu ei chwaer, nid yw i'w halogi ei hun o'u plegid, oherwydd ef ei hun sy'n gyfrifol am ei ymgysegriad i Dduw.

8. Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

9. “ ‘Os bydd rhywun yn marw'n sydyn wrth ei ymyl, a phen y Nasaread yn cael ei halogi, yna y mae i eillio ei ben ar y dydd y glanheir ef, sef y seithfed dydd.

10. Ar yr wythfed dydd, y mae i ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod,

11. a bydd yntau'n offrymu un yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm i wneud cymod drosto, am iddo bechu trwy gyffwrdd â'r corff marw. Ar y dydd hwnnw hefyd bydd yn sancteiddio ei ben,

12. ac yn ymgysegru i'r ARGLWYDD ar gyfer ei ddyddiau fel Nasaread, a daw ag oen gwryw yn offrwm dros gamwedd; diddymir ei ddyddiau blaenorol fel Nasaread oherwydd iddo gael ei halogi.

13. “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread, pan ddaw cyfnod ei ymgysegriad i ben: deuer ag ef at ddrws pabell y cyfarfod

14. lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,

15. ynghyd â basgedaid o fara croyw, teisennau peilliaid wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, ynghyd â'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm.

16. Bydd yr offeiriad yn dod â hwy gerbron yr ARGLWYDD ac yn offrymu ei aberth dros bechod a'i boethoffrwm;

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 6