Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Rheolau ynglŷn â'r Nasareaid

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd gŵr neu wraig yn gwneud adduned i ymgysegru i'r ARGLWYDD fel Nasaread,

3. y mae i gadw oddi wrth win a diod feddwol; nid yw i yfed ychwaith ddim a wnaed o rawnwin neu o ddiod feddwol, ac nid yw i fwyta'r grawnwin, boed yn ir neu'n sych.

4. Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread nid yw i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, hyd yn oed yr egin na'r croen.

5. “ ‘Trwy gydol cyfnod ei adduned i fod yn Nasaread, nid yw i eillio ei ben; bydd yn gadael i gudynnau ei wallt dyfu'n hir, a bydd yn sanctaidd nes iddo orffen ymgysegru i'r ARGLWYDD.

6. “ ‘Trwy gydol dyddiau ei ymgysegriad i'r ARGLWYDD, nid yw i gyffwrdd â chorff marw.

7. Hyd yn oed os bydd farw ei dad neu ei fam, ei frawd neu ei chwaer, nid yw i'w halogi ei hun o'u plegid, oherwydd ef ei hun sy'n gyfrifol am ei ymgysegriad i Dduw.

8. Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

9. “ ‘Os bydd rhywun yn marw'n sydyn wrth ei ymyl, a phen y Nasaread yn cael ei halogi, yna y mae i eillio ei ben ar y dydd y glanheir ef, sef y seithfed dydd.

10. Ar yr wythfed dydd, y mae i ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod,

11. a bydd yntau'n offrymu un yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm i wneud cymod drosto, am iddo bechu trwy gyffwrdd â'r corff marw. Ar y dydd hwnnw hefyd bydd yn sancteiddio ei ben,

12. ac yn ymgysegru i'r ARGLWYDD ar gyfer ei ddyddiau fel Nasaread, a daw ag oen gwryw yn offrwm dros gamwedd; diddymir ei ddyddiau blaenorol fel Nasaread oherwydd iddo gael ei halogi.

13. “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread, pan ddaw cyfnod ei ymgysegriad i ben: deuer ag ef at ddrws pabell y cyfarfod

14. lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,

15. ynghyd â basgedaid o fara croyw, teisennau peilliaid wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, ynghyd â'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm.

16. Bydd yr offeiriad yn dod â hwy gerbron yr ARGLWYDD ac yn offrymu ei aberth dros bechod a'i boethoffrwm;

17. bydd hefyd yn offrymu'r hwrdd yn heddoffrwm i'r ARGLWYDD ynghyd â'r basgedaid o fara croyw, y bwydoffrwm a'r diodoffrwm.

18. Bydd y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod yn eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, a bydd yn cymryd y gwallt ac yn ei roi ar y tân a fydd dan aberth yr heddoffrwm.

19. Wedi i'r Nasaread eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, bydd yr offeiriad yn cymryd ysgwydd yr hwrdd ar ôl ei ferwi, a theisen a bisged heb furum o'r fasged, a'u rhoi yn nwylo'r Nasaread,

20. a bydd yr offeiriad yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; bydd y rhain, ynghyd â'r frest a chwifir a'r glun a offrymir, yn gyfran sanctaidd ar gyfer yr offeiriad. Yna caiff y Nasaread yfed gwin.

21. “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread sy'n gwneud adduned: bydd ei offrwm i'r ARGLWYDD yn unol â'i adduned, ac y mae i ychwanegu ato beth bynnag arall y gall ei fforddio. Y mae i weithredu yn ôl yr adduned a wnaeth ac yn ôl deddf ei ymgysegriad fel Nasaread.’ ”

Y Fendith Offeiriadol

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

23. “Dywed wrth Aaron a'i feibion, ‘Yr ydych i fendithio pobl Israel a dweud wrthynt:

24. “ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;

25. bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;

26. bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’

27. “Felly gosodant fy enw ar bobl Israel, a byddaf finnau'n eu bendithio.”