Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 6:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Bydd y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod yn eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, a bydd yn cymryd y gwallt ac yn ei roi ar y tân a fydd dan aberth yr heddoffrwm.

19. Wedi i'r Nasaread eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, bydd yr offeiriad yn cymryd ysgwydd yr hwrdd ar ôl ei ferwi, a theisen a bisged heb furum o'r fasged, a'u rhoi yn nwylo'r Nasaread,

20. a bydd yr offeiriad yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; bydd y rhain, ynghyd â'r frest a chwifir a'r glun a offrymir, yn gyfran sanctaidd ar gyfer yr offeiriad. Yna caiff y Nasaread yfed gwin.

21. “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread sy'n gwneud adduned: bydd ei offrwm i'r ARGLWYDD yn unol â'i adduned, ac y mae i ychwanegu ato beth bynnag arall y gall ei fforddio. Y mae i weithredu yn ôl yr adduned a wnaeth ac yn ôl deddf ei ymgysegriad fel Nasaread.’ ”

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

23. “Dywed wrth Aaron a'i feibion, ‘Yr ydych i fendithio pobl Israel a dweud wrthynt:

24. “ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;

25. bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;

26. bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’

27. “Felly gosodant fy enw ar bobl Israel, a byddaf finnau'n eu bendithio.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 6