1. Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.
2. Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.
3. Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,
4. tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.
5. Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.
6. Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.
7. Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.
8. Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.
9. Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau dŵr a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.
10. Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Môr Coch.
11. Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.
12. Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.
13. Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.
14. Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd dŵr i'r bobl i'w yfed.
15. Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.
16. Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.
17. Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.
18. Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.