1. Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.
2. Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.
3. Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,
4. tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.
5. Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.
6. Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.
7. Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.
8. Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.
9. Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau dŵr a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.
10. Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Môr Coch.
11. Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.
12. Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.
13. Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.
14. Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd dŵr i'r bobl i'w yfed.
15. Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.
16. Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.
17. Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.
18. Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.
19. Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares.
20. Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna.
21. Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa.
22. Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha.
23. Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer.
24. Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada.
25. Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth.
26. Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath.
27. Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara.
28. Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca.
29. Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona.
30. Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth.
31. Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan.
32. Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad.
33. Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha.
34. Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.
35. Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.
36. Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.
37. Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.
38. Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.
39. Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.
40. Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.
41. Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.
42. Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.
43. Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.
44. Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.
45. Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.
46. Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.
47. Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.
48. Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen;
49. yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.
50. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,
51. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,
52. yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;
53. yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu.
54. Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn ôl llwythau eich hynafiaid.
55. Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;
56. ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.’ ”