28. Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.
29. Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.
30. Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.
31. Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.
32. Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.
33. O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.
34. Ar ôl cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.
35. Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.