Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Meibion Aaron

1. Dyma ddisgynyddion Aaron a Moses yr adeg y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai.

2. Enwau meibion Aaron oedd: Nadab y cyntafanedig, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

3. Dyma oedd enwau meibion Aaron a eneiniwyd ac a gysegrwyd i wasanaethu fel offeiriaid.

4. Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar dân halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngŵydd eu tad Aaron.

Y Lefiaid i Wasanaethu'r Offeiriaid

5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

6. “Tyrd â llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.

7. Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.

8. Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.

9. Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.

10. Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos.”

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

12. “Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,

13. oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.”

Cyfrifiad y Lefiaid

14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,

15. “Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd.”

16. Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

17. Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.

18. Dyma enwau meibion Gerson yn ôl eu tylwythau: Libni a Simei.

19. Meibion Cohath yn ôl eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.

20. Meibion Merari yn ôl eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.

21. O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.

22. Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.

23. Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu ôl i'r tabernacl.

24. Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.

25. Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,

26. llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.

27. O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.

28. Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.

29. Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.

30. Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.

31. Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.

32. Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.

33. O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.

34. Ar ôl cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.

35. Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.

36. Y Merariaid oedd i ofalu am fframiau'r tabernacl, y barrau, y colofnau, y traed, yr offer i gyd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth;

37. hefyd am golofnau'r cyntedd o amgylch, ynghyd â'r traed, yr hoelion a'r rhaffau.

38. Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a ddôi'n agos i'w roi i farwolaeth.

39. Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn ôl eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.

Neilltuo'r Lefiaid yn lle'r Cyntafanedig

40. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn ôl eu henwau.

41. Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD.”

42. Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

43. Ar ôl cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.

44. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

45. “Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.

46. Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,

47. cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn ôl sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;

48. yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion.”

49. Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,

50. ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn ôl sicl y cysegr.

51. Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.