Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 27:6-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho:

7. “Y mae cais merched Seloffehad yn un cyfiawn; rho iddynt yr hawl i etifeddu ymhlith brodyr eu tad, a throsglwydda etifeddiaeth eu tad iddynt hwy.

8. Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch.

9. Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr.

10. Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad.

11. Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.’ ” Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel.

13. Ar ôl iti ei gweld, fe'th gesglir dithau at dy bobl, fel y casglwyd dy frawd Aaron,

14. am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn yn anialwch Sin, a gwrthod fy sancteiddio yng ngŵydd y cynulliad pan fu cynnen yn eu plith wrth y dyfroedd.” Dyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin oedd y rhain.

15. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD,

16. “Boed i'r ARGLWYDD, Duw ysbryd pob peth byw, benodi rhywun dros y cynulliad

17. i'w harwain a'u tywys wrth iddynt fynd a dod, rhag i gynulliad yr ARGLWYDD fod fel defaid heb fugail.”

18. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer Josua fab Nun, dyn sydd â'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;

19. pâr iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gŵydd hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 27