Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Merched Seloffehad

1. Yna daeth ynghyd ferched Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, o deuluoedd Manasse fab Joseff. Enwau ei ferched oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.

2. Safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac o flaen yr arweinwyr a'r holl gynulliad, a dweud,

3. “Bu farw ein tad yn yr anialwch; nid oedd ef ymhlith y rhai o gwmni Cora a ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD, ond bu ef farw oherwydd ei bechod ei hun, heb adael mab ar ei ôl.

4. Pam y dylai enw ein tad gael ei ddileu o'i dylwyth am nad oedd ganddo fab? Rho inni etifeddiaeth ymhlith brodyr ein tad.”

5. Cyflwynodd Moses eu hachos o flaen yr ARGLWYDD,

6. a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho:

7. “Y mae cais merched Seloffehad yn un cyfiawn; rho iddynt yr hawl i etifeddu ymhlith brodyr eu tad, a throsglwydda etifeddiaeth eu tad iddynt hwy.

8. Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch.

9. Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr.

10. Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad.

11. Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.’ ” Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Josua i Olynu Moses

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel.

13. Ar ôl iti ei gweld, fe'th gesglir dithau at dy bobl, fel y casglwyd dy frawd Aaron,

14. am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn yn anialwch Sin, a gwrthod fy sancteiddio yng ngŵydd y cynulliad pan fu cynnen yn eu plith wrth y dyfroedd.” Dyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin oedd y rhain.

15. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD,

16. “Boed i'r ARGLWYDD, Duw ysbryd pob peth byw, benodi rhywun dros y cynulliad

17. i'w harwain a'u tywys wrth iddynt fynd a dod, rhag i gynulliad yr ARGLWYDD fod fel defaid heb fugail.”

18. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer Josua fab Nun, dyn sydd â'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;

19. pâr iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gŵydd hwy.

20. Rho iddo gyfran o'th awdurdod di, er mwyn i holl gynulliad pobl Israel ufuddhau iddo.

21. Y mae i sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad, a bydd yntau'n ymgynghori ar ei ran gerbron yr ARGLWYDD trwy'r Wrim; ar ei orchymyn ef, bydd holl gynulliad pobl Israel yn mynd allan ac yn dod i mewn.”

22. Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; cymerodd Josua, a pheri iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad,

23. a gosododd ei ddwylo arno, a rhoi iddo'r siars, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi cyfarwyddo Moses.