5. Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, “Y mae pob un ohonoch i ladd y rhai o'i lwyth a fu'n cyfathrachu â Baal-peor.”
6. Yna daeth un o'r Israeliaid â merch o Midian at ei deulu, a hynny yng ngŵydd Moses a holl gynulliad pobl Israel, fel yr oeddent yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.
7. Pan welodd Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, hyn, fe gododd o ganol y cynulliad, a chymerodd waywffon yn ei law,
8. a dilyn yr Israeliad i mewn i'r babell; yna gwanodd hwy ill dau, sef y dyn a hefyd y ferch trwy ei chylla.
9. Felly yr ataliwyd y pla oddi wrth bobl Israel. Er hyn, bu farw pedair mil ar hugain trwy'r pla.