Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Yr Israeliaid a Baal-peor

1. Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.

2. Yr oedd y rhain yn eu gwahodd i'r aberthau i'w duwiau, a bu'r bobl yn bwyta ac yn ymgrymu i dduwiau Moab.

3. Dyma sut y daeth Israel i gyfathrach â Baal-peor. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel,

4. a dywedodd wrth Moses am gymryd holl benaethiaid y bobl a'u crogi gerbron yr ARGLWYDD yn wyneb haul, er mwyn i'w lid droi oddi wrth Israel.

5. Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, “Y mae pob un ohonoch i ladd y rhai o'i lwyth a fu'n cyfathrachu â Baal-peor.”

6. Yna daeth un o'r Israeliaid â merch o Midian at ei deulu, a hynny yng ngŵydd Moses a holl gynulliad pobl Israel, fel yr oeddent yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

7. Pan welodd Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, hyn, fe gododd o ganol y cynulliad, a chymerodd waywffon yn ei law,

8. a dilyn yr Israeliad i mewn i'r babell; yna gwanodd hwy ill dau, sef y dyn a hefyd y ferch trwy ei chylla.

9. Felly yr ataliwyd y pla oddi wrth bobl Israel. Er hyn, bu farw pedair mil ar hugain trwy'r pla.

10. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

11. “Y mae Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, wedi troi fy llid oddi wrth bobl Israel; ni ddistrywiais hwy yn fy eiddigedd, oherwydd bu ef yn eiddigeddus drosof fi ymhlith y bobl.

12. Felly dywed, ‘Rhoddaf iddo fy nghyfamod heddwch,

13. a bydd ganddo ef a'i ddisgynyddion gyfamod am offeiriadaeth dragwyddol, am iddo fod yn eiddigeddus dros ei Dduw, a gwneud cymod dros bobl Israel.’ ”

14. Enw'r Israeliad a drywanwyd gyda'r ferch o Midian oedd Simri fab Salu, penteulu o lwyth Simeon.

15. Enw'r ferch o Midian a drywanwyd oedd Cosbi ferch Sur, a oedd yn bennaeth dros dylwyth o bobl Midian.

16. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17. “Dos i boenydio'r Midianiaid a'u lladd,

18. oherwydd buont hwy'n eich poenydio chwi trwy eu dichell yn yr achos ynglŷn â Peor, ac yn yr achos ynglŷn â'u chwaer Cosbi, merch pennaeth o Midian, a drywanwyd yn nydd y pla o achos Peor.”