Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 12:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd gan Miriam ac Aaron gŵyn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi,

2. a gofynasant, “Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?” A chlywodd yr ARGLWYDD hwy.

3. Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear.

4. Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, “Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod,” a daeth y tri ohonynt allan.

5. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen.

6. Yna dywedodd,“Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau:Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith,datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth,a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.

7. Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses;ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.

8. Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,yn eglur, ac nid mewn posau;caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.Pam, felly, nad oedd arnoch ofncwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”

9. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.

10. Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.

11. Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 12