Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cosbi Miriam

1. Yr oedd gan Miriam ac Aaron gŵyn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi,

2. a gofynasant, “Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?” A chlywodd yr ARGLWYDD hwy.

3. Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear.

4. Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, “Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod,” a daeth y tri ohonynt allan.

5. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen.

6. Yna dywedodd,“Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau:Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith,datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth,a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.

7. Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses;ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.

8. Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,yn eglur, ac nid mewn posau;caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.Pam, felly, nad oedd arnoch ofncwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”

9. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.

10. Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.

11. Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.

12. Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.”

13. Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiacháu.”

14. Atebodd yr ARGLWYDD ef, “Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto.”

15. Felly caewyd Miriam allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac ni chychwynnodd y bobl ar eu taith nes iddi ddychwelyd.

16. Yna aethant ymaith o Haseroth, a gwersyllu yn anialwch Paran.