1. Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud,
2. “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un.
3. Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
4. Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.
5. Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;
6. o Simeon: Selumiel fab Surisadai;
7. o Jwda: Nahson fab Amminadab;
8. o Issachar: Nethanel fab Suar;
9. o Sabulon: Eliab fab Helon.
10. O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur;
11. o Benjamin: Abidan fab Gideoni;
12. o Dan: Ahieser fab Ammisadai;
13. o Aser: Pagiel fab Ocran;
14. o Gad: Eliasaff fab Reuel;
15. o Nafftali: Ahira fab Enan.”
16. Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.
17. Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,
18. ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.
19. Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.