Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Cyfrifiad Cyntaf Israel

1. Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud,

2. “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un.

3. Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

4. Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.

5. Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;

6. o Simeon: Selumiel fab Surisadai;

7. o Jwda: Nahson fab Amminadab;

8. o Issachar: Nethanel fab Suar;

9. o Sabulon: Eliab fab Helon.

10. O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur;

11. o Benjamin: Abidan fab Gideoni;

12. o Dan: Ahieser fab Ammisadai;

13. o Aser: Pagiel fab Ocran;

14. o Gad: Eliasaff fab Reuel;

15. o Nafftali: Ahira fab Enan.”

16. Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.

17. Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,

18. ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.

19. Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

20. O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

21. Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.

22. O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

23. Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.

24. O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

25. Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.

26. O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

27. Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.

28. O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

29. Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.

30. O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

31. Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.

32. O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

33. Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant.

34. O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

35. Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant.

36. O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

37. Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant.

38. O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

39. Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant.

40. O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

41. Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant.

42. O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.

43. Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant.

44. Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tŷ ei hynafiaid.

45. Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn ôl eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel;

46. y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.

47. Ond ni rifwyd y Lefiaid yn ôl llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel,

48. oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,

49. “Paid â chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel;

50. ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch.

51. Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl.

52. Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn ôl eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun.

53. Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid.”

54. Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.