1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt,
2. “Dywedwch wrth bobl Israel, ‘O'r holl anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear, dyma'r rhai y cewch eu bwyta:
3. unrhyw anifail sy'n hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil, cewch fwyta hwnnw.
4. Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
5. Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
6. Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
7. Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, ond heb gnoi cil, ac y mae'n aflan ichwi.
8. Nid ydych i fwyta eu cig na chyffwrdd â'u cyrff; y maent yn aflan ichwi.
9. “ ‘O'r holl greaduriaid sy'n byw yn nŵr y môr neu'r afonydd, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen, cewch fwyta hwnnw.
10. Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y dŵr, y mae'n ffiaidd ichwi.
11. Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff.
12. Y mae unrhyw beth yn y dŵr sydd heb esgyll na chen yn ffiaidd ichwi.