Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Anifeiliaid Glân ac Aflan

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt,

2. “Dywedwch wrth bobl Israel, ‘O'r holl anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear, dyma'r rhai y cewch eu bwyta:

3. unrhyw anifail sy'n hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil, cewch fwyta hwnnw.

4. Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.

5. Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.

6. Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.

7. Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, ond heb gnoi cil, ac y mae'n aflan ichwi.

8. Nid ydych i fwyta eu cig na chyffwrdd â'u cyrff; y maent yn aflan ichwi.

9. “ ‘O'r holl greaduriaid sy'n byw yn nŵr y môr neu'r afonydd, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen, cewch fwyta hwnnw.

10. Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y dŵr, y mae'n ffiaidd ichwi.

11. Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff.

12. Y mae unrhyw beth yn y dŵr sydd heb esgyll na chen yn ffiaidd ichwi.

13. “ ‘Dyma'r adar sydd yn ffiaidd ichwi, ac na chewch eu bwyta am eu bod yn ffiaidd: yr eryr, y fwltur, eryr y môr,

14. y barcud, unrhyw fath o gudyll,

15. unrhyw fath o frân,

16. yr estrys, y frân nos, yr wylan, ac unrhyw fath o hebog,

17. y dylluan, y fulfran, y dylluan wen,

18. y gigfran, y pelican, y fwltur mawr,

19. y ciconia, unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.

20. “ ‘Y mae unrhyw bryf adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.

21. Ond y mae rhai pryfed adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed y cewch eu bwyta: y rhai sydd â chymalau yn eu coesau i sboncio ar y ddaear.

22. O'r rhain cewch fwyta unrhyw fath ar locust, ceiliog rhedyn, criciedyn neu sioncyn gwair.

23. Ond y mae pob pryf adeiniog arall sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.

24. “ ‘Byddwch yn eich halogi eich hunain trwy'r rhain; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.

25. Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.

26. “ ‘Y mae unrhyw anifail sydd heb hollti'r ewin a'i fforchi i'r pen, a heb gnoi cil, yn aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan.

27. O'r holl greaduriaid sy'n cerdded ar eu pedwar, y mae'r rhai sy'n cerdded ar eu pawennau yn aflan i chwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.

28. Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; y maent yn aflan ichwi.

29. “ ‘O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard,

30. y geco, y llyffant, y genau-goeg, y lysard melyn a'r fadfall.

31. O'r rhai sy'n ymlusgo ar y ddaear, dyna'r rhai sy'n aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hwy wedi iddynt farw yn aflan hyd yr hwyr.

32. A bydd unrhyw beth y syrth un ohonynt arno wedi iddo farw, yn aflan, boed o goed, brethyn, croen neu sachliain, i ba beth bynnag y defnyddir ef; rhaid ei roi mewn dŵr, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân.

33. Os syrth un ohonynt i lestr pridd, bydd popeth sydd ynddo yn aflan a rhaid torri'r llestr.

34. Y mae unrhyw fwyd y gellir ei fwyta, ond sydd â dŵr o'r llestri arno, yn aflan; ac y mae unrhyw ddiod y gellir ei hyfed o'r llestr yn aflan.

35. Y mae unrhyw beth y syrth rhan o'u cyrff arno yn aflan, a rhaid ei ddryllio, boed ffwrn neu badell, gan ei fod yn aflan, ac yr ydych i'w ystyried yn aflan.

36. Eto y mae ffynnon neu bydew i gronni dŵr yn lân; y peth sy'n cyffwrdd â'u cyrff sy'n aflan.

37. Os bydd un o'r cyrff yn disgyn ar unrhyw had sydd i'w blannu, y mae'n lân;

38. ond os bydd dŵr ar yr had a'r corff yn disgyn arno, bydd yn aflan ichwi.

39. “ ‘Os bydd un o'r anifeiliaid y cewch eu bwyta yn marw, bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gorff yn aflan hyd yr hwyr;

40. rhaid i unrhyw un sy'n bwyta peth o'r corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn y corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.

41. “ ‘Y mae unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ffiaidd; ni ddylid ei fwyta.

42. Peidiwch â bwyta unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear, boed yn symud ar ei dor, neu'n cerdded ar bedwar troed neu ar amryw draed; y mae'n ffiaidd.

43. Peidiwch â'ch gwneud eich hunain yn ffiaidd trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo; a pheidiwch â'ch halogi eich hunain trwyddynt na'ch cael yn aflan o'u plegid.

44. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi. Peidiwch â'ch halogi eich hunain trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo ar y ddaear.

45. Myfi yw'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft i fod yn Dduw ichwi; byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi.

46. “ ‘Dyma'r ddeddf ynglŷn â'r anifeiliaid, yr adar, y creaduriaid byw sy'n llusgo trwy'r dyfroedd a'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear,

47. er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng y creaduriaid byw y gellir eu bwyta a'r rhai na ellir eu bwyta.’ ”