Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,

2. fe gasglaf yr holl genhedloedda'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,a mynd i farn â hwy ynoynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedda rhannu fy nhir,

3. a bwrw coelbren am fy mhobl,a chynnig bachgen am butain,a gwerthu geneth am win a'i yfed.

4. “Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n ôl i mi yr ydych? Os talu'n ôl i mi yr ydych, fe ddychwelaf y tâl ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan.

5. Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.

6. Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.

7. Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich tâl ar eich pen chwi eich hunain.

8. Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell.” Yr ARGLWYDD a lefarodd.

9. “Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd:‘Ymgysegrwch i ryfel;galwch y gwŷr cryfion;doed y milwyr ynghyd i ymosod.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3