1. “Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,
2. fe gasglaf yr holl genhedloedda'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,a mynd i farn â hwy ynoynglÅ·n â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedda rhannu fy nhir,
3. a bwrw coelbren am fy mhobl,a chynnig bachgen am butain,a gwerthu geneth am win a'i yfed.
4. “Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n ôl i mi yr ydych? Os talu'n ôl i mi yr ydych, fe ddychwelaf y tâl ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan.
5. Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.
6. Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.