Hen Destament

Testament Newydd

Job 37:4-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ar eu hôl fe rua;tarana â'i lais mawr,ac nid yw'n eu hatalpan glywir ei lais.

5. Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais;gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.

6. Fe ddywed wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear’,ac wrth y glaw a'r cawodydd, ‘Trymhewch’.

7. Y mae pob un yn cael ei gau i mewn,a phopeth a wnânt yn cael ei atal.

8. Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,ac aros yn eu gwâl.

9. Daw'r corwynt allan o'i ystafell,ac oerni o'r tymhestloedd.

10. Daw anadl Duw â'r rhew,a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11. Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12. Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,dros wyneb daear gyfan.

13. “Gwna hyn naill ai fel cosb,neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.

14. “Gwrando ar hyn, Job;aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

15. A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu,ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?

16. A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau,rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?

Darllenwch bennod gyflawn Job 37