Hen Destament

Testament Newydd

Job 36:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. A ddeall neb daeniad y cwmwl,a'r tyrfau sydd yn ei babell?

30. Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas,ac y cuddia waelodion y môr.

31. Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd,a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.

32. Deil y mellt yn ei ddwylo,a'u hanelu i gyrraedd eu nod.

33. Dywed ei drwst amdano,fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 36